Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2016
Amser: 08.30 -
08.46
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Rhun ap Iorwerth AC Paul Davies AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Byddai’r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 25 Ionawr 2017 -
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 6 Rhagfyr i gyfeirio’r Bil Undebau Llafur (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai’r dyddiad terfyn i’r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 7 Ebrill 2017, a’r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 16 Mehefin 2017.
Nododd y Pwyllgor Busnes y papur sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr holl Filiau a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines ar gyfer yr ail sesiwn seneddol.
Nododd y Rheolwyr Busnes bapur gan y Llywodraeth yn gofyn i’r Pwyllgor Busnes ohirio ei drafodaeth ar y papur ar y gwaith o graffu ar y gyllideb tan yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd yn sgil cyhoeddiad y Canghellor y byddai newidiadau i amserlen cyllideb y DU. Byddai hyn yn rhoi amser i effaith y cyhoeddiad hwn gael ei adolygu mewn rhagor o fanylder.
Cwestiynau brys
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y disgwylir i Aelodau fod yn barod i ofyn eu cwestiynau brys yn y Cyfarfod Llawn, oherwydd mae cael y cyfle i ofyn Cwestiwn Brys yn fraint y dylid ei pharchu.
Cwestiynau’r Llefarwyr
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y disgwylir i’r Llefarwyr nodi cyn y Cyfarfod Llawn a ydynt yn bwriadu holi’r Gweinidog yn hytrach nag Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod Cwestiynau’r Llefarwyr.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai’r arfer barhau yn unol â’r canllawiau a gytunwyd yn 2014. Bydd y Clerc yn ailddosbarthu’r canllawiau hyn. Cytunwyd hefyd unwaith y bydd Ysgrifennydd y Cabinet/y Gweinidog wedi dechrau ateb cwestiynau, ni ddylent drosglwyddo’r awennau, ni waeth beth sy’n codi yn ystod set benodol o gwestiynau.